Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dal fi, Iesu, yn dy law, yn dy law, yn dy law. O, Arglwydd, bydd yn Achubydd, bydd yn Achubydd, a digon yw!"

"Yr Arglwydd Iesu yw fy rhan,
Efe yw gobaith f' enaid gwan."


"Na ad fi yn difatter, Arglwydd; deued dy deyrnas, deued dy deyrnas ar y ddaear.—A gaiff y fath bechadur a myfi garu Iesu, yn dragywydd? yn dragywydd?—O, Arglwydd, cymmer fi i freichiau dy drugaredd rad."

Wrth ymddyddan âg un brawd, dywedodd y geiriau hyn, "A chariad trag'wyddol y'th gerais; am hynny y tynnais di â thrugaredd—Nid oes gènyf ddim am fy mywyd, ond rhoi fy hun yn bechadur tlawd, i'r hwn a fu farw dros bechaduriaid. Wele fi yn marw dan garu fy holl frodyr."

Sabbath yr 11eg, o Mehefin, efe ofynodd pa ddiwrnod oedd hi? Atebwyd mai Sabbath; dywedodd yntau, "O, a gaf fi ddechreu ar Sabbath tragywyddol?" Trachefn efe a lefodd, " Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was, mewn tangnefedd, yn ol dy air: Canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth."—Ar y 12ed, "O, a gaf fi, y pechadur duaf, dy foli di, IESU, yn dragywydd? O, tragywyddol garu IESU,