a'i foliannu:—O, a gaf fi hynny, Arglwydd? O, Achubydd pechaduriaid; yn dy law di mi allaf rydio'r afon.—O, na ad fi heb galon i obeithio ynot.—Yn dy ffordd, yn dy ffordd, yn dy ras, achub fi i fywyd tragywyddol. Y mae digon o rinwedd y'ngwaed y groes i fy nglanhau i bechadur."
Wrth chwaer a ddaethai i ymweled âg ef, y dywedodd, "Yr oeddwn i yn meddwl na buaswn i ddim yma yr awr hon. Ond da gwnaeth yr Arglwydd bob peth.—Yr ydwyf yn meddwl na fwrw'r Arglwydd mo honof ymaith yn hollawl oddi ger ei fron—Y mae wedi rhoi i mi olwg ar ogoniant ei Fab: Ac nid ydyw Efe ddim wedi fy ngadael hyd yr awr hon. Marwolaeth Iesu ydyw y cwbl a feddaf am fy mywyd:—Y pechadur annheilyngaf ydwyf o neb."
Wrth ei deulu efe a ddywedai, "Gweddïwch; peidiwch a digalòni; er nad yw hi yn orfoleddus, etto y mae yn gysurus, oblegid y mae fy ymddiried i yn yr Arglwydd.—Fy ngolwg i a fyddo ar waed y Testament newydd: yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel.—Oddi yno y mae peth yn dyfod i foddloni enaid euog:—Cyfammod tragywyddol a wnaeth Efe a mi; wedi ei luniaethu yn holl-