awl ac yn sicr.—O, Arglwydd, trugarhâ, y mae 'r gelyn yn agos; na fydd bell, ond bydd di yn agos.—Amynedd i ddysgwyl wrthyt ti am fy rhyddhâd, yn dy awr di;—nid wyf fi ddim yu deilwng o'th sylw lleiaf.—Mae arnaf chwant ymddired etto yn yr Arglwydd, am fy iechydwriaeth; a pheidio a gosod terfyn i Sanct yr Israel."
Trachefn y dywedodd, "Fy myr ysgafn gystudd i sydd odidog ragorol. Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air: canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth. O, Arglwydd, dangos dy ryfedd drugaredd attaf, ac ynof, etto."—Wrth frawd arall a ddaethai i ymweled âg ef, y dywedodd, "A gewch chwi a minnau garu Iesu a'i foliannu; garu Iesu a'i foliannu; yn dragywydd, yn dragywydd? O, cawn! cawn!
Wrth ei wraig y dywedodd, y noswaith cyn ei ymadawiad, "Paid ag wylo, fy anwyl, mae 'r Arglwydd yn gan mil gwell i ti na mi."—Y geiriau diweddaf a ddywedodd efe, ag oedd ddealladwy, oedd y rhai hyn, "O, a gaf fi farw mewn heddwch â Duw anfeidrol? O hapus nefoedd! Hapus nefoedd!"