Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EMYN AR GLADDEDIGAETH.
(Cyfieithiad o'r un flaenorol.)

ALARWYR, na wnewch waith di fael,
Wrth hebrwng llwch i'r llawr:
Rhaid myn'd i'm pridd—dŷ gwely gwael,
Nes seinio'r udgorn mawr.

Ail yw oes dyn i briddyn brau;
Yn hwnw bydd fy lle:
Ond enaid, fe gaiff byth barhâu,
Duw yw ei wreiddyn e'.

Gadewais chwi; fe'm rhoed yn rhydd;
Ni chewch fi'n ol i fyw;
Nes delo'r Adgyfodiad ddydd,
A barn i ddynol ryw.

Y dydd daw Crist ar gwmwl nef,
I farnu daear gron:
Archangel yn rhoi uchel lef
"Dowch, feirw, ger ei fron."

Pawb ceisient rad y Ceidwad cu,
(Crist'nogaidd weddaidd waith!)
Modd hyn cawn wleddoedd nefol lu,
drag'wyddoldeb maith.