droi i edrych, neidr oedd yno, wedi ei deffroi, mae'n debygol, gan bwys fy mhen, ac yn ymlusgo i'w thwll.—Pan oeddynt yn ail-adeiladu rhannau o'r Eglwys, yr oedd y plwm, i'w thoi, yn cael ei doddi mewn darn o'r hen Gapel Pabaidd sy uwch ben y ffynnon, a elwir Ffynnon Gwenfrewi. Yno hefyd yr oedd yr Ysgoldý: A chan fod y gweithwyr wedi gosod rhaff dros un o'r trawstiau cryfion sy yn nen yr adeilad (ac wedi bod gynt yn cynnal ei tho plwm) yr oeddym ninnau, yr ysgolheigion, yn defnyddio honno i chware sigl-hongian. Ar un tro, fel yr oeddwn i, a bachgen arall, yn brysur ar y dyfyrwch hwn, un o'r hen gyffiau cerfiedig, oedd wedi eu gosod dan groes-gyssylltiadau'r trawstiau, a ddaeth i lawr yn ddisymmwth, trwy fod y rhaff yn gwasgu arno o bob ochr, ac yntau yn hen a holltedig: Syrthiodd yn ddau ddarn o gryn bwysau, yn ein hymyl ni ein dau; ond trwy ragluniaeth dirion, ni a ddïangasom heb niwed.—Yr oeddym yn arfer myned ambell waith i ben y clochdŷ. Ar un diwrnod, mi a aethum ac a sefais ar uchaf un o adwyau ei fur-gaullaw: Ac nid digon oedd hynny genyf; ond, i ddangos ychwaneg o'm gwihydri rhyfygus, mi ddringais ar
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/13
Gwedd