Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchaf y grib (ond yn unig fod yno un garreg wedi colli) ac yno y sefais ar fy un-troed; ïe, edrychais i lawr, ac o'm deutu; tynnais fy het hefyd, a bloeddiais o orfoledd gwag. Ond yn fuan, ar floedd arswydławn hen wr oedd ar y fynwent mewn dychryn o'm hachos, minnau a ddechreuais arswydo, a phen-ysgafnhâu; a phrin y gwyddwn pa ochr yr oedd fy nisgyniad, neu yn hytrach fy nghodwm: Ond, trwy ddaioni Duw, ar y to plwm oddi mewn y disgynais, heb gael niwed. Yn agos ir un amser (o ddeutu'r flwyddyn 1771) yr oedd cymdeithas o Chwareyddion yn y dref: ac, am na fedrent gael lle arall wrth eu bodd, hwy a gytunasant âg un Mordecai Edwards i wneuthur iddynt Chwareudŷ, tros yr amser, o goed. Hwn a wnaed mewn gardd, lle yr oedd y pridd yn lled feddal: a chan fod fy awydd yn gryf am weled y Chware yn fynychach nag yr oedd gènyf arian i dalu, ymroddais gydâ dau neu dri ereill o'm cymdeithion, i grafu twll tan astyllen isaf yr adeilad; ac felly, o'r diwedd, ymwthiasom i mewn. Ond, gan fod y meingciau ar radd—esgyniad, y naill yn uwch nâ'r llall, nid oeddym ni, er ein hymdrech ladradaidd, ond mewn gwagle tywyll, is law y bobl, ac allan o