Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olwg y Chware. O'r diwedd, wedi bod yno dro hir yn ymddifyrru fel y gallem, cawsom sisial wrth rại o'n cydnabyddiaeth, a thyciasom i gael ganddynt wneuthur lle, a'n helpio i fynu i eistedd yn eu mysg: a'u caredigrwydd hynny, mewn iawn bryd, a fu'r moddion i gadw ein bywydau. Pe buasem oddi tanodd ychydig funudau, neu fe allai un munud yn hŵy, cawsem ein llethu i farwolaeth. O herwydd yn fuan iawn ar ol i ni gael eistedd, y meingciau a ymollyngasant (am fod ystlysau'r adeilad yn egwan) ac a gyd-syrthiasant, y'nghyd â'r edrychwyr lliosog oedd arnynt, i'r gwagleoedd tanodd. Yr oedd yno ddychryn mawr; ond nid llawer o friwiau na niwed, oddieithr ar ddau neu dri. Am dana finnau, bum dros ychydig, mewn braw a syndod dwys, yn cydnabod mai llaw Duw a gadwodd fy mywyd, ïe, a'm henaid hefyd allan o uffern: ond och! buan yr anghofiais, neu y collais effaith y tro; ac felly rhedais ar ol gwag bleserau mor awyddus ag o'r blaen.

Yn y blynyddoedd hynny, sef o 1769 hyd 1772, bu llawer o gyfnewidiadau arnaf o ran agwedd fy meddwl, a dull fy ymddygiad: weithiau yn ofni, yn addunedu, ac yn ceisio ym-