Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drechu yn erbyn fy nhueddiadau ynfyd a drwg;—weithiau yn ymollwng, ac yn ymroddi yn awyddus i fwynhau fy mhleserau. Gyda bodd hynod mi a addunedais lawer gwaith, y byddwn yn ddyn duwiol ar ol dyfod i oedran; ac y byddwn yn Weinidog deffröus, ymdrechgar a ffyddlawn: Ië, oddi ar y teimladau oedd gènyf, dychymmygais lawer y modd yr argyhoeddwn, y ceryddwn, ac y rhoddwn siamplau da i'm plwyfolion; ac addunedais y gwasanaethwn Dduw â'm holl galon. Ond hyn ni wnaeth y tro: yr oedd fy ofnau, o radd i radd, yn dychwelyd arnaf yn fynychach, ac yn drymach. Meddyliais y gallwn farw yn ieuangc; ac hefyd, er i mi gael fy arbed hyd henaint, y byddai yn llawer anhaws i mi y pryd hynny fyw yn dduwiol, os na ddechreuwn yn gynt. Yn y nos hefyd byddwn yn cael fy nychrynu trwy freuddwydion; yn enwedig un tro y breuddwydiais fod y ffwrn danllyd dragywyddol yn ymagoryd i'm derbyn, ac yn cael ei chau am danaf. Gan yr helynt flin oedd arnaf, mi a rodiais yn syn-ddifrifol tros ryw ambell yspaid, ac a roddais aml gais at wellhâu fy muchedd. Byddwn ofalus na thyngwn ddim (nid oedd hynny yn arferiad cyffredin gènyf, er