y byddwn yn mynych-gwympo iddo yn nghyfeillach y rhai a'i harferent) ni's gallai fy nghydysgolheigion chwaith dynnu cymmaint a gwên oddi wrthyf; mi a'u cynghorwn yn sobr; diangwn i'm lletty i ddarllen; ac wedi hynny syrthiwn ar fy ngliniau, a dywedwn hyn a hyn o weddïau. Mewn tymmerau o'r fath yma barnwn fy hun yn ddyn duwiol: ond nid hir y parhai fy nghrefydd; y'mhen ychydig ddyddiau fe laesai'r awel, a minnau a syrthiwn at fy hen arferion yn ol.
Fel hyn y treuliais lawer o fisoedd; weithiau yn rhedeg gyda'r blaenaf ar ol pob ynfydrwydd Lachgenaidd; ac weithiau yn cael attaliad dwys, trwy'r dychrynfeydd a'r ceryddon yr oedd yr Arglwydd yn eu rhoddi arnaf. Ond o'r diwedd, math o anobaith a ddechreuodd orchuddio a sarnu fy enaid: Meddyliais ei fod yn beth llwyr-anmhosibl i mi garu duwioldeb, na gadael fy mhechodau: (er na wyddwn nemmawr fod dim uwchlaw ymarferiadau allanol mewn duwioldeb; nac am ddim pechodau i'w gadael, heblaw fy chwareyddiaethau, hela, cardiau, a'r cyffelyb, ar y Sabbath, a dyddiau'r wythnos:) Meddyliais hefyd am y nef, fod y gwaith sy yno yn berffaith groes i'm har-