chwaeth a'm hanian i; gan hynny, nad oedd dim well i mi nag ymorchestu i gael fy rhan yn helaeth o bleserau daear a phechod, ac anghofio'r gosp, hyd oni orfyddai arnaf, yn un o lawer iawn, ei goddef. Dyma'r feddyginiaeth dlawd, resynol, a gynnygiodd Satan a'm calon druenus i mi: ond gan fy mod yn gweled fy ngresyni i radd fawr, weithiau, ac yn dra anesmwyth o'r achos, cynnygiodd y gelyn i mi feddyginiaeth arall, nid llai gresynol ac ofnadwy, etto yn tueddu'n fawr i roddi esmwythdra i fy meddwl yn y cyflwr truenus yr oeddwn ynddo: Cefais fy llithio i feddwl, neu yn hytrach, i obeithio yn gadarn, nad oes na Duw, na Diafol; na nef, nac uffern —Fel hyn yr ymdrybaeddais yn fy ngwaed: Etto ni adawodd yr Arglwydd mo honof; ond dilynodd fi â'i ymrysonau; a'r rhei'ny weithiau yn fy nal mewn modd mwy tyner a thoddawl. Yr wyf yn cofio rhai amserau, pan y byddwn, ar fy mhen fy hun, yn cael fy ngorddiwes yn ddisymmwth a thristwch am fy mhechodau, a hunan—ffieiddiad, y'nghŷd â meddyliau gobeithiol am iachawdwriaeth, nes y byddai fy serchiadau yn toddi, fy llygaid yn llifo gan ddagrau, a'm tafod hefyd ar waith mewn ymbiliau a dïolch
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/18
Gwedd