Dymunaswn dreulio fy oes yn y fath le, ac yn y fath agwedd meddwl."
Cymmerwyd fi allan o'r Ysgol, yn agos i ddyddiau'r Nadolig, 1771, pan oeddwn yn nghylch pymtheng mlwydd a naw-mis oed. Yr oeddwn y pryd hynny yn gryn hyddysg yn yr ieithoedd Lladin a'r Groeg: gan hynny bwriadodd fy nhad i mi aros gartref tros beth amser, oblegid ei bod yn rhy fuan ganddo fy rhoi yn y Brif-ysgol. Yn fuan ar ol hynny, heb i mi fod yn profi yr un radd o drallod ac ofnau ag a fuasai o'r blaen yn fy ngwasgu, dechreuais roddi lle i ryw ddymuniad gwan am fyw yn dduwiol; gan feddwl (oddiwrth yr ofnau, ac hefyd y llawenydd hedegog, a deimlaswn) mai hynny a'm gwnâi yn wir ddedwydd, yn y bywyd hwn, ac i dragywyddoldeb. Ymroddais i gilio yn fynych i'r dirgel, lle y darllenwn amryw ffurfiau o weddi; megis, am edifeirwch, am ffydd, &c. yn enwedig am y gras o barhad; am fy mod yn mawr-ofni y syrthiwn yn ol, fel y darfuasai i mi amseroedd ereill.—Yn y mis Mawrth canlynol, daeth un o'r bobl a elwir yn Fethodistiaid at fy nhad, i geisio ganddo osod tŷ iddynt bregethu ynddo yn Nghaerwys. Yr oedd gènyf feddyliau go dda am danynt