er's peth amser, wrth weled rhai a fuasai yn hynod ddrygionus yn cael eu hynnill trwyddynt i fucheddu'n hardd: hefyd, yr oedd pregeth a glywswn gan yr hen wr syml, Robert Llwyd, o Blas Ashpool, (oddi ar Esay 40) wedi cael peth effaith arnaf. Gan hynny dymunais ar fy nhad adael iddynt gael y lle. Fe synnodd wrthyf: ond, er ei fod yn lled-wrthwynebus, cytunwyd am dano. Yr oedd y gwr ar ei ffordd yn myned i wrando pregeth, oedd i fod yn Ffynnon Feuno: fy mrawd, iau na mi, ydoedd awyddus i fyned gyd âg ef; a'n Llysfam a'm lled-gymhellodd innau. Yr oedd arnaf ofn a chywilydd; ond er hynny cydsyniais i fyned. Robert Evans, o Lanrwst, oedd yn cynghori (ei destun, Salm 86. 11.) ac fe gafodd yr odfa gymmaint o effaith arnaf, fel yr aethum yno drannoeth drachefn, i wrando Edward Parri, Brynbugad, Llansannan.—Wedi hynny, mi a geisiais gyfleusderau i wrando amryw bregethwyr ereill, ac a'u gwrandewais gyd âg awyddfryd, a rhyw radd o flas a budd. Ychydig wythnosau wedi hyn, fel yr oeddwn efo gorchwyl yn y maes, rhedodd gair fel hyn yn ddisymmwth, ac yn rymus, i fy meddwl; "Mi
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/20
Gwedd