a'th gerais â chariad tragywyddol." Nid oedd fy nghydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau ond bychan iawn; ac ni chlywswn am y fath beth yn mhrofiad neb arall: etto meddyliais fod y geiriau yn y Bibl; ac mai yr Arglwydd a'u hanfonasai attaf: Ac yn wir hwy gawsant effaith fawr arnaf; oblegid y pryd hyn mi a adewais fy mhleserau gynt, nid o anfodd, ond o wir ddewisiad; ac fe a'm nerthwyd hefyd, i oddef y groes oddi allan, yr hon, erbyn hyn, oedd yn dechreu gwasgu yn lled ddwys arnaf. Mi a chwiliais lawer am y geiriau, oedd wedi swnio mor hyfryd yn fy meddwl, ac a'u cefais o'r diwedd (yn dra thebyg i'r modd y rhedasent i fy nychymyg) yn Jer. 31. 3. Ond er hyn yr oeddwn, trwy'r holl amser, yn dra anwybodus o'm cyflwr euog dan y ddeddf, yn nghŷd â phla fy nghalon: ïe, yr oedd yn rhyfedd gènyf pa fodd nad oeddwn i (ar ol gwellhâu cymmaint ar fy muchedd) yn fwy teilwng o iachawdwriaeth na'm hen gyfeillion, oedd etto yn byw yn eu pechodau.—Yn mhen ychydig ar ol hyn, gwelais beth o'm trueni a'm drygioni tufewnol, trwy fod fy nghalon (dy bygwn) yn ymgaledu, a'r hen ddidduwiaeth medd-
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/21
Gwedd