wl yn dechreu ail-ymddangos: a hyn fu'r achlysur cyntaf. i mi feddwl yn ddwys am bla fy nghalon..
Y'nghylch yr amser hwn, neu ychydig ar ol hyn, bu arnaf, tros rai wythnosau, gryn helbul yn achos Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth; nid am fy mod yn ammau pa un a oedd athrawiaeth Rhagluniaethiad yn unol a'r Ysgrythyrau, ai nid oedd: (yr oeddwn yn cwbl—farnu ei bod; yn enwedig, wrth edrych ar Eph. 1. a Rhuf. 8. a 9 pen:) Ond fy mhrofedigaeth oedd, Pa fodd y mae Duw yn gyfiawn, yn rasol, ac heb fod yn dderbyniwr wyneb, yn ei waith yn ethol rhai, ac yn gadael ereill i'w dinystr, gan beri'r fath wahaniaeth diderfyn yn eu cyflyrau? Wrth geisio dattod y cwlwm trwy rym fy rheswm a'm synwyr, nid oeddwn yn tycio nac yn llwyddo dim, eithr yn hytrach yn ymddyrysu fwyfwy: ond wrth geisio ymbil am oleuni ac addysg gan yr Arglwydd, gwelais, fy mod i, a holl hil Adda, yn greaduriaid gwenwynig, sarphaidd o anian; a hynny, nid trwy weithrediad Duw; yn ganlynol, eb fi, Yr wyf fi yn sicr yn haeddu fy namnio: ac os arfaethodd Duw ogoneddu ei gyfiawnder yn fy namnedigaeth i, a myrddiynau o'm bath, ni wnaeth efe