Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â mi ddim cam. Trwy ystyriaethau o'r fath yma y dystawyd, y pryd hynny, ddadłeuon chwerwon y gelyn a'm calon wrthryfelgar.

O ddeutu dechreu'r haf (1772) fy nhad, wrth weled fel yr oeddwn yn tueddu, a'm cymhellodd i ddychwelyd i'r Ysgol. Sylwedd fy atebion oedd, "Nad oeddwn yn gwrthod myned wrth ei orchymyn ef; ond fy mod yn meddwl nad atebai hynny ddim i'r dyben oedd yn ei olwg."—Yr oedd genyf y fath olwg ar fucheddau'r Offeiriaid, fel y llwyr-gaseais, ac y dychrynais rhag, y meddwl am fod yn un o honynt. Yr oedd arnaf ofn hefyd yr anghofiwn gyflwr fy enaid, ac y dychwelwn at fy hen bleserau, trwy rym y deniadau a'r croesau a gawn eu cyfarfod yn yr Ysgolion. Mewn gair, daeth y fath yspryd caethiwed arnaf, fel y rhoddais heibio fy holl lyfrau ysgol; a phrin y gallwn edrych ar un o honynt drwy'r saith mlynedd a ganlynodd. Yr oeddwn hefyd yn ddyfal ar lafur—waith ddyddiau'r wythnos; a'r ychydig amser a gawn y nosweithiau, a'r Sabbothau, gwell oedd gènyf ei dreulio yn darllen y Bibl, a llyfrau crefyddol ereill.—O ddeutu diwedd yr haf hwn, cefais glywed am gyd-gynnulliad neillduol, gan ychydig gyfeillion crefyddol,