Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nghaerwys; a, thrwy gael peth cymhelliad, aethum yno—cefais dderbyniad, fel aelod eglwysig: ac nid hir y'm gadawyd heb gael gweled peth o'r fraint o fod â'm coelbren yn eu mysg. Yr oeddwn yn teimlo fod arnaf eisiau bendithion ysprydol, nad oeddwn etto wedi eu cyrhaeddyd; ac yr oedd rhyw fesur o gri yn fy yspryd am gael eu mwynhau.

Yr oeddwn, erbyn hyn (oddi ar y dewisiad a wnaethwn) yn gorfod ymarfer â phob gorchwyl hwsmonaidd, er fy mod yn dyner a gwan o gorph, a goddef peth gŵg yn fynych, ïe, yn feunyddiol. Cefais nerth i ymostwngi'r pethau hyn gyda boddlonrwydd: ond fy ngofid trwm oedd, bod fy mhla oddi mewn yn chwanegu. Ar ol aml frwydr galed (a minnau weithiau yn colli, weithiau yn ynnill y dydd, fel y meddyliwn) fy hen ddidduwiaeth talgryf a gasglodd ei fyddinoedd, ac a ddaeth i mewn fel afon. Nid oedd dim, tybygwn, y'ngair Duw, nac yn ei natur, ei brïodoliaethau, na'i hanfod, nad oeddwn i yn cael fy nwys-demtio i'w ammau, a'i wrthod, ïe, i'w ddiystyru, a'i gablu. Yr oeddwn yn wir yn mawr-chwennych ymdrechu yn erbyn y fath feddyliau, ac yn taer-lefain am faddeuant, a goruchafiaeth arnynt;