Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ambell waith mi a fyddwn mewn gobaith cryf am gael gwaredigaeth, trwy Dduw yn unig, oddi wrthynt. Ond er hynny ymgryfhâu yr oeddynt, i'm teimlad i; a thrymhâu yr oedd fy maich, tros rai wythnosau a misoedd;—lliaws o wrthresymiadau yn ymgodi ynof beunydd; a minnau yn llwyr-ddigalòni. Rhyfedd oedd gènyf fy mod heb gablu Duw a'm tafod, ac heb wallgofi: ïe, tros beth amser mi a roddais le i'r meddwl, fy mod wedi pechu'r pechod anfaddeuol; a bum i ryw radd, fel un condemniedig o'r achos yn fy ngydwybod.

Ar ddydd Sabbath, yn agos i ddiwedd Medi, yr oedd y Parch. D. Rowlands i bregethu yn y Bont Uchel. Wrth glywed am ei ddoniau ardderchog, mi a ymroddais i fyned yno; ac a roddais le i ryw ddysgwyliad y cawn yno ymwared oddiwrth fy maich. Ei destun oedd yn Gen. 49. 18. Wrth dy iachawdwriaeth di y dysgwyliais, Arglwydd: ond, er i mi gael ychydig gysur, fy maich oedd yn aros. Yr oeddwn yn rhy ddi-galon i fyned i'w wrando drannoeth, er ei fod yn llawer nés attaf (yn y Berthen gron) ond gan fod cynnulliad neillduol y noswaith honno yn Nghaerwys, mi aethum yno, yn ofidus iawn, ac yn ofni mynegi am fy nghyflwr