wrth neb. Un o'r chwiorydd a adroddodd ddaioni'r Arglwydd, yn ymweled â hi, y diwrnod hwnw, trwy'r bregeth yn y Berthen gron, gan ei chodi o'i dwfn ddigalondid. Yn fy meddwl yr oeddwn yn ei hateb, "Yr wyf finnau hefyd yn y pydew dwfn; a gwn mai dyna'r lle y byddaf." Cyn diwedd y cyfarfod, dechreuodd rhai ganu, canmawl, a llawenhau. Tra yr oeddwn innau wedi cilio i'r naill du, ac mewn myfyrdod poenus, yn edrych arnynt, rhedodd meddwl fel hyn, yn rhyw fyfyr dwys, o'm mewn, "Y mae'n dra thebygol fod rhywbeth mewn crefydd, goruwch dychymmygion: onid oddiwrth yr Arglwydd y mae llawenydd y rhai'n yn deillio?" Yna, yn ddisymmwth, cododd meddwl arall gyda grym mawr (ni's gwn pa fodd i adrodd y peth; ond yr oedd megis pe buasai Duw yn ymresymu â mi) "A wyt ti yn barod i goelio tystiolaeth y rhai'n, dy gydgreaduriaid gwaelion? ac ai ni chredi di mo dystiolaeth fy ngair i? Gyd a'r meddwl tywynodd goleu ar fy yspryd; ystyriais, a gwelais y gair, fel gair Duw: fy nghalon a gydnabu fod dwyfoldeb yn argraffedig yn yr Ysgrythyrau, mor amlwg a goleuni yn yr haul: fy nghadwyn a syrthiodd oddiwrthyf;
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/26
Gwedd