cywilyddiais a ffieiddiais fy hunan; dychwelais at fy nghyfeillion, a chyda hwynt, i dalu diolch. Yr wyf, rai gweithiau ar ol hynny, wedi cael prawf o lymder amryw biccellau o eiddo'r fall: ond, o'r amser hwnw (Medi, 1772) hyd heddyw (Tach. 26, 1800.) ni chafodd y brofedigaeth honno, yn ei grym cyfan, ddim cènad i ruthro ar fy enaid gwan.
Bum yn dra chysurus am rywfaint o amser wedi hyn; ond nid yn hir heb gael fy argyhoeddi, dybygwn, mewn rhyw fesur, fod yr hyn a gawswn yn fy ngadael yn fyr o brofi heddwch yr efengyl; ac fod arnaf eisiau nerth, nid yn unig i gredu bod Duw, a bod yr Ysgrythyrau yn air Duw, ond hefyd i dderbyn Crist yn ol y gair; ei dderbyn, trwy ddatguddiad a chymhwysiad yr Yspryd Glân, yn Iachawdwr imi bechadur euog. Yn y caethiwed hwn, a than ryw fesur o deimlad o hono, mi dreuliais yn agos i saith mlynedd yn ychwaneg; heb wybod dim i foddlonrwydd beth yw cael gorphwysfa enaid yn Nghrist, a heddwch tu ag at Dduw yn y gydwybod. Yr oeddwn agos trwy'r holl amser hynny, megis â llaw gènyf ar fy nolur; ac rai gweithiau yn drallodus iawn. Pan adroddwn fy nghyflwr wrth fy nghyfeillion, neu ryw Weinidog, yn