gyffredin hwy a'm hannogent i ddysgwyl am yr Arglwydd, ac a'm cysurent: a llawer gwaith y danfonwyd megis rhyw belydr o oleuni efengylaidd i fy enaid, ac y cefais ryw gip—olwg ar ogoniant Crist: ond credu ei fod yn iachawdwriaeth i mi ni's gallwn.
Yn yr yspaid hwnw o amser, heblaw fy maich a'm croesau cyffredin, yr wyf yn cofio'r amgylchiadau canlynol, a fuant im' er rhyw fesur o brawf; ac yn mha rai y cefais arwyddion o ofal tirion yr Arglwydd am danaf.—Yn mhen blwyddyn, neu lai, ar ol im' ymuno â chyfeillion crefyddol, y gelyn a ddangosodd rai o'i ddichellion; ei efrau a gyfodasant eu pènau; tramgwyddiadau ac ymrafaelion a rwygasant ein cymdeithas fechan. Deallais hefyd rywfaint am yr amrafeiliaeth o ran barnau sydd rhwng yr amryw Sectau crefyddol. Terfysgais a thramgwyddais innau, yn fy meddwl, wrth y pethau hyn; a chollais yr olwg agos oedd genyf ar fy nghyflwr: Ond yr Arglwydd, mewn iawn bryd, a gymhwysodd y gair hwn at fy meddwl, Pa beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. Iöan 21. 22.
Daeth i'm cyfarfod amryw gynnygion i wellhâu fy nghyflwr yn y byd, a diangc oddi tan y