groes, trwy ymddyeithro oddiwrth y bobl ddirmygedig yr oeddwn yn ymlynu wrthynt, fel fy athrawon a'm cyfeillion: Cadwodd yr Arglwydd fi rhag rhoddi lle i un o'r rhai'n. Ond o'r diwedd daeth cynnyg oedd yn ymddangos yn deg iawn, gan fod rhyw radd o ryddid crefyddol (etto o fewn terfynau gosodedig) yn ei ganlyn. Ennillodd hwn fy serch ar ei ol: etto rhagflaenodd yr Arglwydd fi yn rasol ar y ffordd. Rhoddodd ynof, y'nghanol fy ffrwst, ryw fesur o ddymuniad am ei gyfarwyddyd; ac yna y gair hwn a redodd fel cleddyf i fy meddwl; Demas a'm gadawodd, gan garu'r byd presennol. 2 Tim. 4. 10. Cefais fy argyhoeddi mai esmwythder ac elw daearol oeddwn yn edrych am danynt; a'm bod, wrth ei dderbyn, yn debygol i gael llwybr teg, i foddio fy anian lygredig, taflu ymaith groes Crist, ac ymwrthod â'i achos. Ystyriaeth syml a'm meddianodd; meddyliais mai fy nyledswydd oedd gwrthod y cynnyg: cefais nerth ac ymroddiad i hynny; a gwelais achos i ryfeddu daioni Duw o'r herwydd.
Yn y rhan olaf o'r flwyddyn 1778, a dechreu'r ganlynol, yr oedd fy nghyflwr yn pwyso arnaf yn drymach nag o'r blaen, ac hyd nes