oeddwn yn colli blas ar fwyd a diod, a phob mwyniant daearol. Yr oeddwn yn gorfod edrych ar anghrediniaeth mewn lliw du, ac yn teimlo ei rym gorthrwm yn fy enaid tlawd. Geiriau'r Apostol (Yr hwn nid yw yn credu i Dduw a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, 1 Iöan 5. 10.) a llawer o'u cyffelyb, a fyddent yn fynych yn peri im' archollion ac ocheneidiau dwys. Er cynhaliaeth dan fy maich, yr oedd ynof ddysgwyliad, weithiau yn gryfach, weithiau yn wannach, am waredigaeth; ac, rai prydiau, wrth geisio tywallt fy nghyflwr ger bron yr Arglwydd, byddai y gair hwnw, Os erys y weledigaeth, dysgwyl am dani, (Hab. 2. 3.) ac amryw Ysgrythyrau ereill, yn adseinio megis o'm mewn, er cysur a chynhaliaeth i fy yspryd gwan.
O ddeutu diwedd Mai, 1779, cefais fy nharo â dolur lled ysgafn yn fy nghorph; etto fel y bu raid i mi orwedd tros rai dyddiau. Yn yr yspaid hwn gadawodd yr Arglwydd, i ffynhonnau dyfnder fy nghalon gael, megis, eu rhwygo yn agored: Yn lle calon ddrylliog yn ceisio Duw, ac yn ymbil am ei heddwch (meddyliaswn fod hynny gènyf o'r blaen) nid oeddwn yn profi, y pryd hyn, ond ymchwydd