Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwrthryfel calon yn erbyn yr Arglwydd, ei gyfraith, a'i efengyl: Fy llygredigaethau oeddynt yn cyd-ymgynhyrfu ynof, nes oeddwn yn barnu fy hunan yn dra phell oddiwrth iachawdwriaeth, ac, o ran fy nheimlad, yn nesâu i anobaith: fy mywyd oedd yn boen, a marwolaeth yn ddychryn.— Mi wellheais o'r clefyd hwn, heb brofi dim iachâd i'm henaid: ond, i'r gwrthwyneb, euogrwydd, anghrediniaeth, gelyniaeth i Dduw, a gwrthodiad o'i iachawdwriaeth, oeddynt i'm teimlad i, megis yn gorfoleddu arnaf. Etto yr oedd ystyriaeth am y fath Ysgrythyrau a'r rhai'n yn rhyw radd o gynhaliaeth i fy meddwl; Pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fum farw: A'r gorchymyn yr hwn ydoedd i fywyd, hwnw a gaed i mi i farwolaeth, Rhuf. 7. 9, 10: Hefyd, Rhuf. 3. 19. Fel y cauer pob genau, &c. Meddyliais y gallai fod eu cynnwysiad yn cael ei wirio ynof, trwy'r pethau chwerwon oeddwn yn eu profi. Ond wedi i mi fod, tros rai wythnosau ar ol hynny, yn rhodio yn alarus, ac yn cael (fel pe buasai) fod yr eglwys, a'r byd, ïe, nefoedd a daear, mewn cynghrair na roddent i mi ddim cysur; gwelodd yr Arglwydd yn dda roddi ei law arnaf eilwaith trwy