Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lycheden (fever) drom; yr hon a'm dygodd, yn ol fy meddwl, i byrth angau. Pan oeddwn yn y cyflwr hwn, ac yn llawn o ddychryn, daeth y gair hwnw, gyda goleu a grym neillduol, i fy meddwl; Os, pan oeddym yn elynion, y'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef. Rhuf. 5. 10. Yna meddyliais fel hyn; "Yn sicr er i mi feddwl nad oedd un gair, o fewn y Bibl, a ddygai i'm henaid i nac ymwared na chysur, etto y mae hwn yn rhoi sail o obaith i minnau: Gan fod gelynion wedi cael eu heddychu a Duw, y mae lle i minnau gael fy achub; nid wyf ddim yn rhagor nag un o'r cyfryw, er fy mod yn dduaf un ag sy'n bosibl ei fod, tu yma i uffern." Yn y modd hwn y codwyd fy enaid, tybygwn, megis o'r daeardy dwfn. Yn lle euogrwydd ac ofn, a blin gynhyrfiad fy llygredigaethau, dechreuais brofi meddyliau tyner am Dduw, a chysur gobeithiol yn llifo i mewn arnaf; a chefais ryw radd o nerth i gredu, yn wyneb fy nhrueni mawr, fod marwolaeth y groes, marwolaeth Mab Duw, yn llawn ddigon rhinweddol i'm hachub, ac i'm hachub yn gyfiawn, ïe, i'm gwaredu hyd byth oddiwrth bechod a digofaint. Wedi i'm fod, tros rai dyddiau, yn