wyneb angau o ran grym clefyd, a'm henaid yn glynu yn obeithlawn wrth iachawdwriaeth Crist, dechreuais wellhau ychydig: ond fy meddwl a dywyllodd, a'm cysur a giliodd. Yna amheuaeth, ïe ofn, a ddaeth arnaf, nad oedd yr hyn a gawswn ond twyll a siomedigaeth: etto yr oedd llef hiraethlawn yn cael ei chadw ynof am iachawdwriaeth fy Nuw.
Pan oeddwn, ar un diwrnod, yn dechreu rhodio ychydig allan, ac yn myfyrio ar fy nghyflwr, gan ddymuno gwir-adnabod y sail y gallai fy enaid gwan, terfysglyd, bwyso arni, a chael fy sefydlu ar y graig honno, rhedodd y gair hwn gyda goleu a grym i fy meddwl, Wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, Col. 1. 20; a thrachefn y gair hwn, Wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy'r prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu, Rhuf. 3. 24. Daeth goleuni gyda'r rhai'n i'm hyspryd, nes gwelais yn eglur fod yn Nghrist yn unig gyfiawnder cwbl berffaith, yn cael ei gynnyg a'i roddi yn gwbl rad, i wneuthur y fath bechadur a myfi yn ddifeius ger bron Duw. Ar hyn dychwelais i'm 'stafell mewn syndod a llawenydd mawr; ac yn y man agorais y Bibl, gan feddwl darllen rhyw gyfran o hono. Y gair a ym-