Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynnygiodd yn gyntaf i'm golwg oedd hwn; Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a'u cyfiawnder hwy sydd oddiwrthyf fi, medd yr Arglwydd, Esay 54. 17. Nid oeddwn am ddefnyddio geiriau y Bibl mewn ffordd ofer-goelus; ond yr oedd matter y testun hwn yn ddigon gènyf, a'i adsain yn llenwi fy enaid: Fy nghalon a ehangwyd, a chefais brofi peth o orfoledd yr iachawdwriaeth. Syrthiais ger bron yr Arglwydd, gan ddymuno diolch iddo; a dywedais fy mod yn anturio yn hyderus fy oll i dragywyddoldeb ar gyfiawnder yr Emmanuel, Duw gyda ni; gan ddymuno gras i'w dderchafu mewn calon a buchedd, a rhodio yn ol ei gynghor tra byddwn yn y byd.

Tros ryw dalm o amser ar ol hyn, cefais fy nghadw nid yn unig yn effro, ond yn profi rhyw. fesur o heddwch a rhyddid ysprydol; yn cael golygiadau a blas ar yr Ysgrythyrau na wyddvn o'r blaen am danynt; a chysur boddlonawl, wrth fyfyrio ar ryfeddodau'r prynedigaeth, yn mynych-lifo i fy enaid. Etto pan gollwn y, eimlad o gysur, byddwn nid yn unig yn dralldus, ond yn dra thueddol i syrthio i amheu-