aeth am y cwbl a brofaswn. Mewn amgylchiadau o'r fath, cefais ambell ymweliad cynnorthwyol a dyddanus, trwy amryw foddion gras. Y gair hwn yn neillduol, Cyfammod fy hedd ni syft, a fu un tro yn dra effeithiol i chwalu ofnau ac amheuon trymion, ac i'm llenwi o orfoledd a diolchgarwch. Mewn gair, yn y dyddiau hynny, yr oedd rhywbeth o ogoniant, sicrwydd, ac addasrwydd yr addewidion, y'nghŷd ẩ'm hawl innau ynddynt, yn cael, tybygwn, eu cyd-selio ar fy yspryd. Yr oedd addewidion Duw, a thrysorau grasol ei gyfammod, yn rhy anhawdd i mi eu gwrthod: Er fy anghrediniaeth cryf a greddfol, yr oedd yn rhy anhawdd i mi anghredu.
Tros fwy na dwy flynedd wedi hyn, yr oedd fy meddyliau yn cael gwaith ymdrech a phrawf oddiwrth y pethau canlynol, heblaw oddiwrth fy nghyflwr ysprydol.
1. Newidiad cyflwr yn y byd. (Nid oeddwn, trwy'r holl flynyddoedd o'r blaen, wedi gallu cynnwys un meddwl am hyn, gan y teimlad oedd gènyf o'm caethiwed ysprydol, a'r meddwl am y gair hwnw, a'i gyffelyb, Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, &c. Math. 6. 33.)
2. Gwendid corphorol, gan radd o boen yn