Prawfddarllenwyd y dudalen hon
fy aelodau. Yr oedd hyn yn groes ar fy ngwarr, nid yn unig am fy mod yn magu afiechyd mewn ieuengctyd, ond hefyd fy mod yn boenus wrth ddilyn gorchwyl fy sefyllfa, a [1] cherdded wedi hynny i foddion gras.
3. Gogwyddiad oedd ynof (neu, cymhelliad a ddywedaf!) i ddywedyd gair tros yr Arglwydd wrth fy nghyd-greaduriaid. Yr oedd rhywbeth o hyn yn fy nilyn, ar amserau, trwy'r blynyddoeddo'r blaen, er y tywyllwch a'r caethiwed oeddwn yn ei deimlo ar fy enaid: ond y dyddiau hyn yr oedd gyda mi yn fynychach ac yn fwy ei rym; nes y byddwn ambell waith yn
- ↑ Nid oeddwn, hyd yr amser hwn, erioed wedi cael anifel i'w farchogaeth, i foddion gras, nac ar un neges crefyddol: ond o'r diwedd fy nhad, wrth ddirnad ychydig am fy ngwendid a'm poen, a brynodd farch bychan, fel y byddai i mi ei gael ambell waith o leiaf at fy ngwasanaeth. Nid oedd ei bris ond £2. 10s. ac yn ganlynol nid oedd ei faint yn fawr na'i ystum ond lled—wael; ond rhaid i mi addef, gyd â chywilydd, er i mi gael wedi hynny anifeiliaid amgenach, a llawer iawn o roddion tymmorol, mai prin y bum mor ddiolchgar i'r Arglwydd am un o honynt, ag oeddwn am y creadur bychan hwnw. Bu yn wasanaethgar am gryn nifer o flynyddoedd; ac fe'm dygodd o fan i fan, a thrwy gryn nifer o deithiau oeddynt oll yn filoedd o filltiroedd. Wrth deimlo llesgedd, a phoen y cryd-cymmalan, yn fy nghorph, yr oeddwn yn ddiolchgar am dano, fel rhodd wrth raid, gan yr Arglwydd.