Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorfod meddwl, "Rhaid i mi fyned at y gwaith mawr hwnw."

Bu y pethau hyn (y'nghŷd â pheth teimlad o wendid fy ffydd a phob gras) yn foddion i'm cadw rhag cysgu yn hollol, ac i beri fod gènyf neges at orsedd trugaredd: A chefais, tybygwn, ychydig nerth i fwrw fy meichiau ar yr Arglwydd, ac hefyd beth profiad o'i ddaioni mewn amryw ddyryswch a chyfyngderau、

Am y peth cyntaf, ac hefyd yr ail, cefais wybod nad oedd fy nychymygion a'm dymuniadau i, a meddyliau Duw, ddim yn cyd-fyned cefais brofi, er i'r swmbwl yn y cnawd fod heb fy ngadael, ac er i'm beichiau drymhâu, fod ei ras ef yn ddigonol i'm cynnal a'm cadw: a chefais radd o nerth i ymfoddloni i'w drefn ddoeth.

Am y trydydd, sef gogwyddiad fy meddwl i bregethu'r gair, rai gweithiau mi a'i gwrthwynebwn yn hollol, gan ei gyfrif yn unig yn ffrwyth balchder ac ynfydrwydd fy nghalon, ac a daer weddïwn yn ei erbyn: rai gweithiau, gan ammeu hyn, dymunwn i'r Arglwydd fy ngoleuo yn yr achos, a'm cyfarwyddo. Ond trwy'r cwbl ni's gallwn feddwl fod gènyf gymhwysderau i'r gorchwyl, o ran profiad na don-