Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau, ac nid oeddwn yn teimlo grym i fyned yn ei gylch, mwy nag i godi mynydd.

Heblaw y pethau hyn, a holl amryw lygredigaethau fy nghalon, yn feunyddiol yn rhyfela yn erbyn fy enaid, cyfarfuais, y'nghylch yr amser hwnw, âg un brofedigaeth chwerw iawn, o eiddo'r fall, mae'n debygol: etto ni chafodd fod yn hir ei pharhad. Pan oeddwn wedi colli'r mwynhad cysurus a fuasai ambell waith gènyf, a'm meddwl hefyd wedi ymlithro i ddïofalwch a chysgadrwydd, cefais gyfarthiad hyll y pryd hyn i'm deffro: daeth haid o amheuon, am wirioneddau gogoneddus yr efengyl, i ddwys aflonyddu fy enaid: nes ofnais fy mod ar gael fy llenwi â'r holl gableddau, a fuasai megis yn gorfoleddu arnaf amryw flynyddau o'r blaen. Holiadau fel hyn oedd yn cael ei cymhell arnaf; Pa fodd y gall dyn euog gael ei wneuthur yn wir gyfiawn trwy gyfiawnder un arall? Pa fodd y dichon rhoddiad un i farwolaeth ddwyn bywyd a bywyd tragywyddol, i fyrddiynau? Pa fodd y gall un person fod yn Dduw, ac yn ddyn? a Nawer o'r cyffelyb. Bum yn drallodus gan y pethau hyn tros rai dyddiau; ond rhoddodd yr Arglwydd i mi rym i ymdrechu âg ef ei hun yn eu hachos: ac fel yr oeddwn ar un diwrnod yn tywallt