fy nghwyn ger ei fron, cafodd y gair hwnw ei gymhwyso, gydâ grym neillduol, at fy meddwl, Crist gallu Duw, a doethineb Duw, 1 Cor. 1. 24. Yn fuan iawn bu raid i'm hamheuon ddystewi a ffoi. Cefais olwg gogoneddus ar berson a dyoddefiadau'r Emmanuel, nes oedd fy enaid yn gorfoleddu ynddo, gan gydnabod fod yr iachawdwriaeth sydd trwyddo yn bènaf o weithredoedd Duw hollalluog a holl-ddoeth, ac yn rhoi y sail gadarnaf o obaith a chysur i bechadur. Parhäodd yr archwaeth felus o hyn ar fy meddwl tros lawer o ddyddiau: a chefais fy arwain, gydâ hyfrydwch, i ddal manwl sylw ar y modd y mae'r Hen Destament, yn ei brophwydoliaethau a'i gysgodau, yn cyhoeddi'r un Crist a'r Testament Newydd yn ei adroddiadau eglur. Bu y golygiadau hyn er maeth a chryfhâd ysprydol i'm henaid.
Yn nechreu'r haf, 1782, cefais fy nharo drachefn â [1]llycheden, (fever) yr hon a'm dygodd, yn ol fy meddwl, i byrth angau. Wrth feddwl am farw, yr oeddwn, trwy lewyrchiad grasol, mi a feddyliwn, yn dawel a hyderus am fy nghyflwr tragywyddol; etto yr oedd arnaf faich nid bychan mewn perthynas i waith y Weini-
- ↑ Cryd poeth.