Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dogaeth: ei bwys, ac angenrhaid am fyned iddo, oedd yn cyd-wasgu arnaf. Bernais, os estynai Rhagluniaeth rywfaint ar fy oes, y byddai raid i'm' (ie, addunedais y gwnawn hefyd) bregethu Crist i'm cyd-bechaduriaid, er mor anghymwys, yn mhob ystyriaeth oeddwn at y gwaith. Ond wedi'r cwbl mi a dreuliais bymtheng mis yn chwaneg (a misoedd gofidus fu amryw o honynt) heb fedru rhoddi un cynnyg ar ymaflyd yn y gorchwyl.

Pan gryfhëais ychydig o'r clefyd, fel ag i allu rhodio allan, gan fod Cymdeithasfa (Association) y Bala i'w chynnal yn y dyddiau hynny, mi a fwriedais fyned iddi, ac a ddymunais nerth gan yr Arglwydd. Yr oeddwn yn myned yno mewn mawr wendid corph, a than groes oddi allan drymach nag arferol: ond fy ngofid oedd y dyryswch meddwl yr oeddwn ynddo, gan yr hyn a adroddais yn awr am dano, a phethau ereill oedd megis yn ymgynnyg o'm blaen. Ar y ffordd, darfu i'r Arglwydd, mewn iawn bryd, gymhwyso y gair yma at fy meddwl, Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant. Esay 42. 16. bu yn atteg gref i mi; ac nid y pryd hynny yn unig, ond amryw weithiau o hynny hyd heddyw. Yn y Cyfarfod, er fy mod