mewn amryw brofedigaethau, cefais fy ngwneuthur yn foddlon: a phregeth y Brawd J. Pierce, ar y berth yn llosgi, ac heb ei difa, (Ecs. 3. 3) a fu i mi yn un o thai melusaf a gefais eu gwrando erioed. Dychwelais adref yn gysurus iawn, ac mewn mwy o iechyd corph nag a allaswn ddysgwyl.
O ddeutu Calan gauaf ar of hynny dechreuais syrthio megis i ryw fôr o anıryw ofidiau. Yr oedd yr Arglwydd wedi fy rhybuddio (tybygaf) yn mlaen llaw am danynt, trwy ryw argraffiadau dyfnion ar fy meddyhau, ddydd a nos: y rhai (er nad oeddwn yn sicr-wybod yr achos o honynt, er hynny) oeddynt yn peri i mi ddysgwyl am gyfnewidiau chwerwon; am angau, neu ryw groesau trymion. Yn y misoedd hyn yr oedd cyfyng-fyfyrdodau y'nghylch pregethu gair Duw yn fy nilyn yn barhäus: Ar y naill law, yr oedd gennyf olwg ogoneddus ar y gwaith (fel y meddyliwn) er ei fwyn ei hunan; yr oedd arnaf ofn cuddio fy nhalent fechan yn y ddaear; ac yr oeddwn yn meddwl hefyd, fod achos a gogoniant Duw, a chyflwr eneidiau yn gwasgu peth arnaf. O'r ochr arall yr oeddwn yn amınau fy ngalwad, yn ofni twyll a balchder fy nghalon, ac yn gorfod cywilyddio wrth