edrych ar fy anghymwysder i'r gwaith y'mhob ystyriaeth. Yn yr ymrysonfa hon dechreuodd y meddyliau am fyned yn Weinidog yn Eglwys Loegr ail-fywiocâu ynof, ar ol bod yn gladdedig, fel y tybiaswn, er's llawer o flynyddoedd. Yr achlysuron iddynt oedd y pethau canlynol.
1. Meddyliais, os oedd yr Arglwydd yn fy ngalw i bregethu, fy mod yn debygol i fod yn llai anaddas mewn Eglwys Blwyfol, nag yn mysg y Methodistiaid, o herwydd fy ngwylder a'm diffyg o ddawn ymadrodd.—2. Meddyliais hefyd fod angen trymmach yn yr Eglwys wladol, o herwydd y nifer fawr o eneidiau tywyll, rhagfarnllyd, na fywnant ddyfod i leoedd ereill i glywed y gwir.—3. Annogaeth a gefais gan Weinidog duwiol, neu ddau.—4. Pan oeddwn mewn petrusder rhwng hyn a pheth arall, cefais, fel pe buasai, fy arwain i ddewis urddau Eglwysig, trwy fod cynnorthwywŷr yn ymgynnyg, oedd yn debygol o gael hynny i ben.—Hyd yr oeddwn, neu yr wyf, yn fy adnabod fy hun, nid oedd y parch, na'r elw, sy' y'nglýn wrth yr Eglwys yn pwyso ond ychydig iawn, os dim, yn fy meddwl.
Wedi gogwyddo fel hyn, ymgynghorais a'm brodyr yn eu cynnulliad chwarterol; lle ni