Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chefais ddim gwrthwynebiad, eithr yn hytrach annogaeth, Etto rhyngof a'r Arglwydd yr oedd yn dywyll a chyfyng arnaf; nid oeddwn yn gallu cyrhaeddyd dim hyder boddlonawl yn yr achos: ïe, yr oedd amheuaeth ac ofn yn wastadol yn fy meddwl, na byddai'r Arglwydd gyd â mi; yr hyn a'm gwnai yn fynych fel un soddedig mewn trallod. Yn gysur cynhaliol yr oedd hyn genyf; sef, y gallwn dystio fy mod yn cael fy ngogwyddo a'm nerthu i weddïo am i'r Arglwydd fy arwain a'i gynghor, a'm rhagflaenu'n rasol yn y llwybr yr oeddwn arno, os oeddwn wedi myned iddo yn groes i'w gynghor. Da oedd i mi, ambell waith, gofio'r addewid honno, Arweiniaf y deilliaid, &c. a'i dadleu o flaen ei orsedd rasol. Fel hyn y bu arnaf tros rai wythnosau: ond yn mis Ionawr, 1783, pan oeddwn oddi cartref ar yr achos (a phobpeth oddi allan yn debyg i fyned y'mlaen yn hwylus, etto yn helbulus oddi fewn) mi a freuddwydiais un noswaith fel y canlyn; Gwelwn fy hun yn eistedd mewn tŷ, gyd âg amryw ereill; clywn guro wrth y drws; a, phan agorwyd, daeth i mewn farch o liw gwelw-las; ar ei ol daeth ei farchogwr hefyd â gwnn yn ei law; daeth yn ebrwydd hyd attaf fi, ac annel-