odd â'i ddryll at fy nwyfron. Ar hyn deffröais yn frawychus; ond cyn hir mi hunais ychydig drachefn: Yna gwelwn fy hun mewn tŷ fel o'r blaen; daeth attaf wr â chanddo ddau bistol, un y'mhob llaw; ac a'u hannelodd attaf ar unwaith: yr hyn a'm deffrôdd mewn braw eilwaith. Meddyliais yn ebrwydd (fel ac yr wyf yn meddwl hyd heddyw) er mor ddisylwedd yw llawer o freuddwydion, etto fod rhyw-beth o law yr Arglwydd yn y rhai'n; ac a syrthiais i'w dehongli. Oddiwrth y cyntaf dechreuais feddwl (wrth gofio am a march gwelw-las, yn Dat. 6.8.) fod angau, neu ddwys fygythiad o honno, yn agos attaf: oddi wrth y llall (heblaw cadarnhâd i'r cyntaf) meddyliais y gallwn fod yn cael fy rhybuddio am ddwy brofedigaeth oedd yn, neu ar, ymosod arnaf. Pa fodd bynnag, fel byn y bu: o'r noswaith honno dechreuodd afiechyd fagu ynof; y mae heb fy ngadael hyd yn [1]hyn; ac nid oes argoel y symmudir ef y tu yma i'r bedd. Etto nid heb ail-achosion yn
- ↑ Yr wyf yn 'sgrifenu hyn yn mis Rhagfyr, 1800; felly y mae yn agos i ddeunaw mlynedd er y tro. Rhyfedd y llaw fanwl, dirion, a galluog, a gynhaliodd fy nghorph tra thyner a bregus, ac a'm dygodd trwy'r holl gyfnewidiau a aethant dros fy mhen, o'r pryd hynny byd heddyw!