Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneuthur eu rhan; oblegid aethwn i'r gwely yn oer a rhynllyd; a chan ei fod yn ysgafn o ddillad, a'r hin yn oer hefyd, ni chynnesais yn dda ar hyd y nos.

Ar ol bod yn y fan honno dridiau y'mhellach, dychwelais adref yn ofidus iawn yn fy meddwl; ac ni wnaeth fy maich ond myned drymach drymach ar hyd yr wythnos a ganlynodd. Yr oeddwn yn cael cymmorth i weddio yn ddyfal, gan ddymuno i'r Arglwydd roddi nerth i fyned y'mlaen, neu fy rhagflaenu a'm troi yn ol, fel y gwelai efe ei hun yn dda. Fel hyn yr oedd fy erfyniad yn barhäus: a gwelodd Duw yn dda fy ateb trwy bethau ofnadwy, yn ei gyfiawnder. (Salm 65.5.). Ar yr wythfed dydd wedi fy nyfod adref, wrth weled fy afiechyd yn parhau, a phrofi y fath gwmwl tew rhyngof a wynebpryd cysurol yr Arglwydd, syrthiodd arnaf yn drallod mor ddwys, fel na fedraf ei ddarlunio. Pan na, fedrwn sefyll ar fy nhraed yn hwy, nac y'ngwydd neb dynion, ymlusgais i'm 'stafell, a syrthiais ar y gwely; lle y bum tros rai oriau mewn cyflwr, o ran teimlad fy meddwl, na ddymunaswn fod un creadur yn ei gyffelyb. Yr oedd y fath deimlad o absennoldeb Duw ar fy enaid, nes