oeddwn yn meddwl fod rhyw ran o boen yr ysprydion y'ngharchar arnaf. Ac fel yr wyf yn dueddol i gredu teimlad o flaen yr Ysgrythyrau, darfu i gôf am hyn, rai gweithiau wedi hynny, fy arwain i feddwl, mai peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw: hefyd, Os oedd cerydd tadol yr Arglwydd mor anhawdd i mi ei oddef, beth a ddywedaf, neu a feddyliaf, am ysgwydd gadarn, a chariad anorchfygol yr hwn a ddyoddefodd ddigofaint dwyfol, a fuasai yn ddigon i soddi mil o fydoedd i wae annherfynol? Myfi, pe gallaswn, a wrthodaswn ychydig ddefnynau o physygwriaeth o'i law ef; ond ni wrthododd Efe gwppan o ddigofaint llawn-gymmysg; ïe, yfodd waddod y cwppan erchyll, yn ewyllysgar yn lle y fath bechadur a myfi! Ond yr ymwared a gefais oedd hyn: Meddyliais o'r diwedd yn hollol, mai oblegid y bwriad oedd gènyf yr oedd gwg yr Arglwydd fel hyn arnaf, a'r ystorm yn y modd hwn wedi codi i'm herbyn; ac yna ymroddais i fwrw fy Jona tros y bwrdd: gwneuthum hynny hefyd; a'r ystorm aeth yn dawel: cefais brofi ychydig gysur, a rhyddhad o'm baich trwm. Felly cyn hir mi a gyfodais i fynu, gan lwyr—fwriadu na letteuwn feddwl mwyach am y fath beth, a chan ymroddi
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/46
Gwedd