Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i oddef pa groesau bynag a ddeuai i'm rhan o'r achos: Ond ni bu y rheiny ond llawer ysgafnach na'm dysgwyliad.

Wedi hyn daeth y brofedigaeth arall i ymgynnyg; sef yr achos yr oeddwn mewn petrusder yn ei gylch, cyn fy ngogwyddo i geisio urddau Eglwysig. Câr agos oedd yn cynnyg fy rhoddi mewn sefyllfa dda i gael bywioliaeth. Ar y cyntaf meddyliais, gan fod yr Arglwydd wedi gwrthwynebu fy nychymmygion am fyned i'r Weinidogaeth, fod hynny yn llais oedd yn fy ngalw i dderbyn y cynnyg hwn. Ond rai dyddiau wed'yn, wrth geisio taenu'r matter o flaen Duw, ac wrth ystyried ei fod yn gwbl o'r un natur a hwnw y cawswn nerth i'w wrthod rai blynyddoedd o'r blaen, (hefyd, wrth deimlo fy afiechyd, a barnu fod rhyw-beth o lais yr Arglwydd yn y breuddwydion a adroddais) cefais fy ngogwyddo i wrthod y cynnyg hwn hefyd ar ol y llall; a hynny a wnaethum. Ond wedi'r cwbl trymhâu a wnaeth fy afiechyd, a chynnyddu arnaf, i'r fath radd, mewn ychydig ddyddiau, nes oeddwn yn meddwl fod ynof arwyddion amlwg o ddarfodedigaeth: angau oedd megis yn syllu yn fy wyneb, a minnau yn anewyllysgar i'w groesawu. Yr oeddwn yn teimlo