Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy hunan, o ran fy nghyflwr ysprydol, yn debyg i ddyn wedi ysigo ei holl esgyrn, yn anhawdd gènyf oddef un cyffyrddiad yn ychwaneg; yr oedd arswyd a dychrynedigaethau yr Hollalluog, mewn rhyw fesur, arnaf: a mynych yr ofnais fod angau yn dyfod arnaf mewn ffordd o farn, fel ar Uzza, (2 Sam. 6. 7.) am estyn ei law at arch Duw heb alwad. Mewn gweddi a moddion ereill yr oeddwn yn cael peth cynnaliaeth a chysur. Etto rhaid i mi gyd â chywilydd gyfaddef ddarfod im', yn wyneb rhybuddion tirion yr Arglwydd, redeg at feddygon a meddyginiaethau mewn gormod o frys aflonydd ac awydd anianol am iachad: a bu hynny, fel yr wyf yn cwbl—goelio, yn achlysur ac yn foddion i ddwyn arnaf arteithiau trymion y[1] Garreg. Etto, trwy'r cwbl ni adawodd yr Arglwydd mo'nof; a gallaf ddywedyd yn ychwaneg, mynnodd dorri fy ngafael, mewn rhyw fesur, o'm henw, o'm hewyllys fy hunan, ac o'm bywyd. Gallaswn, gyd â gradd o ryddid

  1. Am fy mod yn wannaidd, ac yn dueddol i chwysu, cefais fy nghynghori gan gyfaill i gymmeryd Tincture of Bark, ac Acid Elixir of Vitriol: Yn fy anwybodaeth cymmerais ormodedd, ïe, fwy na gormod ddengwaith, o'r surddwfr olaf hwn; a'r canlyniad oedd Cerrig dwys yn magu yn fy lwynau,