boddlonus, ddywedyd, Gwneler dy ewyllys—ar y ddaear megis y mae yn y nefoedd, a bod yn well genyf gael fy malurio i'r pridd na bod yn y cyflwr uchaf ar y ddaear yn groes i feddwl fy Nuw, ac heb ei gymdeithas. Yn misoedd yr haf cafodd fy natur ei chryfhâu, a'i hadferu'n agos i'w nerth arferol: ond yn nechreu Awst y rhód a drôdd. Cefais fy nharo yn ddisymmwth a gwasgfa drom o'r dolur a enwais uchod, yn fy lwyn ddehau; a bum tros rai oriau yn goddef poen dwys, etto heb wybod yn sicr natur fy afiechyd.
O ddeutu diwedd yr un Mis (Awst) neu ddechreu Medi, y bu i mi anturio ymaflyd yn y gwaith o bregethu. Nid oedd, y pryd hynny, y fath ymryson a therfysg yn fy meddyliau ag a fuasai'n arferol o fod yn yr achos: Yr oeddwn wedi cael, mewn rhyw fesur, fy ngwneuthur megis yn farw i'r peth, ac yn dawel-ddysgwylgar wrth yr Arglwydd. Fel yr oeddwn, ar brydnawn Sabbath, yn dychwelyd adref, ar ol bod yn gwrando dwy bregeth, daeth i fy meddwl fyned i gyfarfod oedd i fod am yr hwyr yn Nghaerwys. Gan na ddaethai'r Pregethwr yno, rhai o'm cyfeillion a fuant daerion arnaf i roddi iddynt air o gynghor. Minnau a