Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydsyniais i ddarllen pennod a myned i weddi; ac ychwaneg nid oeddwn yn bwriadu ei wneuthur, Ond wrth ddarllen yr unfed bennod ar ddeg at yr Hebreaid, a chael peth blas ar ei chynhwysiad, mi a anturiais ddywedyd rhywfaint oddi wrthi; ond yn wan iawn a chywilyddgar, pan ystyriais beth yr oeddwn arno, a a phwy oeddwn.

O'r dydd hwnw allan yr oedd fy nghyfeillion y rhai mwyaf deallgar y'nghyd â'r gwannaf eu deall a'u profiad, yn rhoi galwad i mi arfer y doniau a roisai'r Arglwydd i mi mewn modd cyhoeddus, yn eu plith: ac yr oeddwn innau, yn raddol, yn cael fy nghryfhâu mewn ymroddiad i'r gwaith mawr: ond cyn diwedd y flwyddyn (1783) cefais ail wasgfa, gan boen oddiwrth y garreg, yn fy lwyn ddehau. Bum tros dridiau a their nos heb gael ond ychydig seibiant a llinariad oddiwrth boen dwys; a'r bedwaredd noswaith ymaflodd yr un fath boen yn fy lwyn aswy; ac nid oedd dim arwydd na gobaith ymwared yn ymddangos. Ond y bore canlynol, cefais ymadael â dwfr yn helaeth; ac mi a deimlais ddisgyniad carreg allan o'm dwy lwyn ar unwaith, i'r bledren; ymadewais yn rhwydd ag un; ond y llall yn fwy o faint,