wedi taro yn erbyn genau y bledren, a wnaeth ei harosfa o'i mewn. Ar ol hyn (tan wybyddiaeth sicr am y dolur oedd arnaf) mi a gryfhawyd yn fuan, mewn rhyw radd, yn fy nghorph a'm hyspryd: ac yn y misoedd canlynol (gwanwyn y flwyddyn 1784) mi a ymroddais yn fwy i roi gair o gynghor i'm cyfeillion a'm cymmydogion, ac o fewn cylch helaethach.
Tra'r oeddwn megis wedi fy nghloffi gan amryw ofidiau, heblaw y garreg oedd o fewn fy nghorph, yr oeddwn yn cael rhyw fesur o brawf fod yr Arglwydd yn fy nerthu i fyned y'mlaen yn fy nhaith a'ın gorchwyl, a'i fod yn gosod ynof air y cymmod, ac yn bendithio fy llafur i ambell Gristion gwan, ac ambell bechadur hefyd. Ond yma tra gweddus i mi dewi, ac ymgywilyddio'n fawr gan yr ystyriaethau, O, fy nghulni! O, fy anfuddioldeb!
Yn y gwanwyn hwn, wrth gerdded i'r Bont Uchel, gerllaw Rhuthyn, cefais brawf nad oeddwn yn addas i deithio mor bell, ar fy nhraed, a hynny nid yn unig am fy mod yn rhy wannaidd o ansawdd corph, ond am fod fy nwfr megis wedi ei droi yn waed, trwy ymrwbiad y garreg yn y bledren: ac ambell waith,