yn lled fuan ar ol hyn, cefais yr un prawf yn adnewyddol, ar ol i'm corph fod mewn ysgogiad mwy na chyffredin, wrth gerdded, neu farchogaeth.
Yn yr haf (1784) anturiais i rai teithiau, yn fwy pell oddi cartref, er fy mod yn fynych, ar duth fechan fy anifel, mewn poen oedd yn peri i chwys ddyferu oddi wrthyf: Ac, o ran ansawdd fy nghorph, lled afiach a methiantus oeddwn yn barhäus. Ymarferais â dwfr calch, a meddyginiaethau ereill rhy aml i'w henwi, yn y blynyddoedd canlynol; a bu amryw o honynt yn llesol mewn gradd, i liniaru fy mhoen, trwy leihau poethder fy nwfr, &c. ond etto, wrth arferyd defnyddiau cryfion i attal rhwymiad y corph, a theithio hefyd ar dywydd oer, mi a feddalwyd yn holl ansawdd fy natur, fel y bum, yn analluog i oddef dim o awel y gauaf, tros dri, pedwar, neu bump o fisoedd, yn amryw o'r blynyddoedd canlynol: Ymarferais ag ymdrochi mewn dwfr hallt a chroyw; yr hyn a fu yn llesol mewn cryn radd i adgryfhau fy nghorph tra thyner; a hynny, weithiau yn y gauaf a'r gwanwyn; ond yn gyffredin yn yr haf, am gryn nifer o flynyddoedd.