Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn, neu o ddeutu, y flwyddyn 1792, mi anturiais fyned oddi cartref yn nechreu'r haf, gan fwriadu cylchdaith fer, trwy ran ddwyreiniol Sir Ddinbych; a phan oeddwn gerllaw'r Mwyn-glawdd, yn mhlwyf Gwrecsam, gwelodd yr Arglwydd yn dda fy nharo a chlefyd, Llycheden y Gymmalwst (Rheumatic Fever) yr hon a'm dygodd i wendid a gwaeledd mawr. Yn nhref Gwrecsam trefnodd Rhagluniaeth i mi gael lletty ac ymgeledd dda gan gyfeillion tirion a charuaidd, Mr. R. Jones, a'i wraig. Daeth Mrs. Jones mewn cerbydan i'm cyrchu i'w thŷ, yn nechreu fy nghlefyd; anfonwyd am feddyg attaf, yr hwn a fu yn edrych ar fy ol tros lawer o wythnosau. Ond y clefyd a ymdaenodd o aelod i aelod; a bum, am ryw yspaid, heb allu i symud un o'm haelodau; ac ar ol iddo gael dechreu ei symud oddi arnaf, bum tan ofid a gwasgfa ddwys, am rai dyddiau a nosweithiau, gan effaith y garreg, yn poethi'r dwfr, &c. A'r pryd hyn oedd y tro cyntaf i mi gael prawf o'r boen boethlem honno yn y chwysigen neu'r bledren. Etto, trwy 'r cwbl, gwelodd yr Arglwydd yn dda beri estyniad ar fy oes, adferiad nerth, a llinariad ar boen y garreg: Ac yn mis Awst mi a ddych-