welais adref i dŷ fy nhad, tan ddymuno cydnabod rhyfedd ddaioni Duw tu ag attaf, yn achos fy enaid a'm corph. Yn amser fy nghystudd hwn, ac ar fy adferiad o honno, mi a feddyliwn fod iechydwriaeth Duw yn Nghrist yn werthfawr yn fy ngolwg, a rhyw fesur o fwynhad o'i bendithion yn dra effeithiol i dawelu a dyddanu fy yspryd, gan fy ngwneyd yn foddlawn i ewyllys yr Arglwydd, ac yn awyddus mewn rhyw fesur i dreulio fy amser byr ar y ddaear yn ei wasanaeth, ac er ei ogoniant ef. Mi a bregethais rai gweithiau, gydâ gradd o felusder profiadol oddi ar y geiriau, I chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon. Act. 13. 26.
O hynny hyd y flwyddyn 1795, cefais ryw fesur mwy o gryfhâd yn fy nghorph; ac ni bu poen drom iawn arnaf oddiwrth y garreg, er ei bod beunydd yn peri i mi deimlo ei bod ynof, ac er nad oedd fy nghorph ond meddal a thyner. Yn mis Hydref y flwyddyn honno, pan oeddwn yn agos namyn un deugain oed, mi a aethum i'r 'stâd briodasol, efo E. J. o'r Wyddgrug: ac i'm tueddu at hynny, yn ngwyneb gwaeledd fy iechyd, yr oedd y pethau canlynəl yn pwyso, neu megis yn fy annog a'm galw.