Yr oedd rhyw faint o gydnabyddiaeth neillduol, yn tueddu at gyd-ymrwymiad, wedi bod rhyngom er's cryn nifer, ïe, wyth o flynyddoedd; ac, ar ol i amryw achlysuron attaliadol gyfarfod â phob un o honom, ac i'r bwriad gael ei lwyr-roddi i fynu, tros gryn yspaid o amser, cawsom le i farnu fod rhagluniaeth yn dwyn i ben yr hyn a roisom ni i fynu, o ran dysgwyliad a bwriad. Ond cyn i lawer o fisoedd fyned heibio cawsom arwyddion, trwy brawf chwerw i natur, na fynnai'r Arglwydd i ni ddysgwyl am lawer o wynfyd daearol, a galwad uchel i ymofyn am y cysur cryf oddi uchod, yn lle cysuron gwael y ddaear isod. Trymhau a wnaeth dolur y garreg a'i effeithiau poenus gyd â mi; a hithau (oedd yn lled wannaidd a gwael o'i mebyd ac o ansawdd corph) a aeth yn fwy afiach a nychlyd. Am danaf fy hun, wedi i mi ddyoddef llawer o ddyddiau a nosweithiau poenus, mi a benderfynais ar adael i feddyg ein tref yrru am law-feddyg (Mr. Morrall, o Gaerlleon) i dynnu'r garreg, trwy dorri i'r tu fewn i'r bledren. Am hyn yr oeddwn wedi gofyn a chaffael gradd o gydsyniad fy ngwraig: etto nid oeddwn wedi medru hyspysų fy llwyr ymroddiad, a'r diwrnod pennodedig
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/55
Gwedd