Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddi yr hwn oedd, Mawrth 20, 1797. Yn ganlynol, pan ddaethant i'n tŷ, yr oedd ei dychryn a'i gofid hi yn ddwys, a'm gofid a'm profedigaeth innau yn ddeublyg. Ond wedi i ni efo'n gilydd blygu ein gliniau, a chyd-ymbil ger bron yr Arglwydd, hi a gafodd nerth i ymdawelu; a chan fy ngorchymyn i'r Arglwydd, hi a aeth i 'stafell o'r naill du, tra yr oedd y llawfeddyg a'i gynnorthwywyr yn myned trwy eu gorchwyl. Tan ei ddwylaw cefais nerth gan yr Arglwydd, er ei bod yn galed arnaf, yn enwedig ar ei waith yn tynnu ymaith y garreg oedd mewn ymlyniad wrth y bledren: a chyd â hynny, hyd y medraf ddirnad, bu raid iddo wnëyd rhwygiad yn ychwaneg yn y bledren, heblaw y torriad gan ei gyllell, tu ag at gael y garreg allan. Wedi hynny efe a gynnygiodd wneuthur chwiliad y'mhellach, rhag ofn bod carreg arall ar ol : ond ni chydsyniais â hynny, gan ofn fy mod yn rhy wan i oddef ychwaneg, a chan nad oedd ynof ddim amheuaeth am y fath beth. Yn mhen llai na mis o amser, pan oeddwn wedi dechreu gwellhau (etto heb gyfodi o'm gwely) mi a gefais brawf teimladol a gofidus, fod carreg arall wedi ei gadael ar ol. Yn ngwyneb y prawf hwn yr oedd eisiau cym-