Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

horth, a chymhorth neillduol, gan y Duw grasol, oedd a'i law ddoeth a galluog yn gwasgu arnaf: ac nid y rhan leiaf o'm gofid oedd profedigaeth a gwaeledd cynnyddol yr hon oedd yn nesaf attaf. Ei gwendid a'i hafiechyd hi a gynyddodd hyd foreu yr ail dydd o Tachwedd, 1797, pan y gwelodd yr Arglwydd yn dda roi iddi ryddhad oddiwrth faich y cnawd, a mynediad i mewn, fel yr wy'n hyderu, i gymdeithas nefol ei Harglwydd a'i Hachubydd; tra yr oedd hi yn profi ei dywediad dwys, Peth mawr ydyw marw, yr oedd cynnaliaeth cyfatebol yn cael ei roddi iddi yn y dwys-brawf hwnw. O ddeutu wyth o oriau cyn ei hymadawiad yr oedd ei hewyllys diweddaf wedi ei orphen; ac ynddo hi a fynnodd ddangos ei gofal caredigol attaf fi, tu hwnt i ammodau oedd rhyngom o'r blaen; ac heb fy ngais i yn y radd leiaf, ïe, ac mewn rhan yn groes i'm dymuniad. Gwelais achos wedi hyn i gydnabod llaw fanwl a thirion yr Arglwydd yn darparu at fy angen, pryd nad oeddwn i yn gofalu drosof fy hun, a phryd nad oedd yn gweddu i mi geisio bod yn ddarparydd imi fy hunan. Ac yn wir bu'n gysur i mi lawer gwaith fod gènyf dystiolaeth fy nghydwybod, nad oedd bydol serch ddim yn arwein-