ydd im' o'r dechreuad, ac yn yr ymroddiad a gymmerais, at gyfnewidiad cyflwr.
Wedi hyn, hyd Ebrill, 1801, cynnyddu yn raddol wnaeth yr ail garreg, a'm poen innau o'i hachos: a'r pryd hynny yr oeddwn wedi ymroddi i fyned eilwaith tan ddwylaw meddygon. Ond wedi i law-feddyg (Mr. G. Rowland) a'i gynnorthwywyr ddyfod attaf, a'm bod yn rhwym tan eu dwylaw, efe a wrthododd dorri at y garreg, am na fedrai ei theimlo â'i offeryn chwilio (staff) ac am mai croes i reolau meddygwaith ydyw torri i'r bledren, heb deimlo yn gyntaf fod yno garreg yn gorwedd. Erbyn hyn nid oedd ond gobaith gwan am fy mywyd, a dim mewn ystyriaeth ond am fyr amser, nes y byddai i amlder a dwysder fy mhoenau yrru'r einioes i ddiweddiad. Yn yr haf canlynol cefais fwy o seibiant, a phoenau llai nag yr oedd i mi le i'w ddysgwyl: yn ganlynol mi ellais deithio i amryw fannau, (er mai mewn rhyw radd yn waelach nag ar amserau o'r blaen) gan lafurio, yn ol fy mesur a'm dawn bychan, yn ngweinidogaeth y gair, a gwasanaeth eglwysi Crist. Ond cyn diwedd y flwyddyn yr oedd fy mhoenau wedi trymhau i radd mawr, fy nghnawd